top of page
Celyn logo

Cwmni ymgynghoriaeth ddwyieithog wedi'i lleoli yng Nghymru ydy CELyn. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau, mudiadau a grwpiau o bob maint i ddarparu cefnogaeth ymarferol, wedi'i theilwra. Gall amrywio o gynllunio busnes a cheisiadau am gyllid i gyflawni a gwerthuso prosiectau.
 

Rydym yn adnabyddus am ein dull cydweithredol a hyblyg, yn darparu gwaith o ansawdd uchel sy'n cael ei gyflwyno ar amser, o fewn y gyllideb, yn y Gymraeg a'r Saesneg. 
 

Yn CELyn, rydym yn helpu sefydliadau i weithio'n well a chymunedau i dyfu'n gryfach.  Credwn yn gryf mewn arwain gan y gymuned, selio ar dystiolaeth, bod yn gynhwysol, bod yn gynaliadwy.

Gwasanaethau

Yn CELyn, rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghori cynhwysfawr wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer sefydliadau sy'n awyddus i dyfu, datblygu a gwella'u gweithrediadau. O gynllunio busnes a sicrhau cyllid drwy gronfeydd mawr fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chronfeydd Llywodraeth Cymru, i reoli prosiectau cymhleth a throsglwyddo asedau cymunedol - rydym yma i'ch cefnogi ar bob cam o'ch taith. 

 

Mae ein harbenigedd yn cynnwys popeth o ymchwil a gwerthuso manwl, llywodraethu a chydymffurfiaeth GDPR, i ymgysylltu â'r gymuned a hyfforddiant wedi'i deilwra. Drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol, gallwn gynnig ateb sy'n addas i'ch anghenion penodol a'ch cyllideb, gan sicrhau bod eich prosiect yn cael y gefnogaeth orau o'r dechrau i'r diwedd.

office.png

Astudiaethau Achos

Menter y Ring Cyfyngedig, Garreg Llanfrothen

Bu i ni gefnogi Menter y Ring gyda’i hymgyrch i sicrhau prydles tafarn y Ring (y Brondanw Arms) a’i sefydlu fel menter gymunedol. Roedd ein cefnogaeth yn cynnwys cyngor ar sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol, ymgysylltu cymunedol, datblygu cynllun busnes a dogfen cynnig cyfranddaliadau, ac arweiniad yn ystod yr ymgyrch gwerthu cyfranddaliadau. Llwyddodd y grŵp i godi dros £200,000 a chwblhau pryniant y brydles.
"Roedd Caryl yn broffesiynol, yn hynod ddiwyd a dibynadwy, ac yn barod bob amser i arwain y cleient gyda chyngor pellach a chyfeirio at grantiau a gwaith ymchwilio. Roedd hi'n aelod allweddol o'r tîm ac yn hanfodol wrth ddod i gasgliadau ar gyfer y comisiwn."
"Mae’n perthynas gyda Cwmni Celyn yn broffesiynol, hynod gynhyrchiol ac yn dod â llawer o lwyddiant."
"Bu gwybodaeth a gwaith caled Caryl yn hanfodol i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer safle cyn-ysgol Abersoch.  Tystir i’w sylw trylwyr i fanylion gan lwyddiant y cynllun busnes a cheisiadau ariannol a ysgrifennodd ar ein rhan.  Mae hi o fudd mawr i unrhyw grŵp cymunedol."
bottom of page